Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwerthu cerbyd yn breifat (Ceidwad i geidwad)
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth i hysbysu am werthu cerbyd yn breifat
Rheolir y wefan hon gan DVLA. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrîn
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: vehicleservices@dvla.gov.uk
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt drwy:
- e-bost
- ffonio: 0300 790 6802 neu 0300 790 6819 am y llinell Gymraeg
- gwe-sgwrs
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 3 diwrnod.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon wedi cael ei phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.2.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
WCAG Lefel AAA Blaenoriaeth Isel
1.4.6 Cyferbynnedd (Uwch) (Lefel AAA)
Mae testun wedi’i arddangos gyda chymhareb cyferbynnedd nad yw’n bodloni’r gofyniad lleiaf i fodloni’r meini prawf.
3.2.5 Newid ar Gais (Lefel AAA)
Canfuwyd dolenni a oedd yn agor mewn tab newydd ond nad oeddent yn hysbysu defnyddwyr am y swyddogaeth hon.
2.4.9 Diben y Ddolen (Dolen yn Unig) (Lefel AAA)
Roedd dolenni yn bresennol nad oeddent yn ddisgrifiadol wrth lywio allan o gyd-destun y dudalen.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 26 Tachwedd 2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 15 Mai 2026.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 14 Mai 2026 yn erbyn y safon AA WCAG 2.2. Cynhaliwyd y prawf gan y Digital Accessibility Centre Limited.