Telerau ac Amodau

Mae'r telerau ac amodau hyn yn rheoli eich defnydd o wefan Rheoli Cerbydau a Rhifau Cofrestru Personol Ar-lein DVLA a'ch perthynas â'r wefan hon. Darllenwch hwy yn ofalus gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau a'ch rhwymedigaethau cyfreithiol. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio'r wefan hon.

Mynediad i'r gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i'r ceidwad cofrestredig presennol gofrestru cerbyd ar ran y ceidwad newydd ar ôl gwerthu'r cerbyd yn breifat, neu ddiweddaru'r cofnod cerbydau ar ôl prynu neu werthu cerbyd gan neu i fasnachwr. Yn y dyfodol, o bosib bydd gwasanaethau a nodweddion ychwanegol yn cael eu hychwanegu.

Dylech geisio cyrchu'r gwasanaeth hwn dim ond os oes gennych awdurdod i wneud hynny; os mai chi yw'r ceidwad cofrestredig, rydych yn gweithredu ar ran y ceidwad cofrestredig, neu os ydych yn fasnachwr.

Defnyddio'r Gwasanaeth

  • Noder, mae'r meysydd canlynol yn orfodol. Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth, efallai y bydd rhai meysydd dewisol ychwanegol y gallwch eu cwblhau.

I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer gwerthiant Ceidwad i Geidwad (K2K) bydd arnoch angen:

  • Marc cofrestru
  • Cyfeirnod dogfen y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) ddiweddaraf
  • Enw a chyfeiriad y ceidwad newydd
  • Dyddiad gwerthu

I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer Gwarediad i Fasnach bydd arnoch angen:

  • Marc cofrestru
  • Cyfeirnod dogfen y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) ddiweddaraf
  • Enw a chyfeiriad masnachwr
  • Dyddiad gwerthu

I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer Pryniant gan Fasnach bydd arnoch angen:

  • Marc cofrestru
  • Cyfeirnod dogfen y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) ddiweddaraf
  • Enw a chyfeiriad masnachwr
  • Enw a chyfeiriad y ceidwad newydd
  • Dyddiad gwerthu

Bydd y gwasanaeth hwn ar gael i bob unigolyn sy'n dymuno cofrestru gwerthiant preifat cerbyd, gwerthiant i fasnachwr neu bryniant gan fasnachwr, rhwng 7am a 7pm (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Ni allwn warantu y bydd y gwasanaeth heb ffaeleddau. Pe bai yna ffaeledd, byddwn yn ceisio ei gywiro cyn gynted ag y gallwn.

Costau

Nid oes cost am y gwasanaethau uchod, ond wrth gofrestru ceidwad newydd, efallai y byddwch yn gallu trethu'r cerbyd ar-lein ar yr un pryd. Os byddwch yn gwerthu'ch cerbyd, bydd DVLA yn canslo treth eich cerbyd. Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei ganslo'n awtomatig.

Byddwch yn cael siec ad-daliad yn awtomatig ar gyfer unrhyw fisoedd llawn sy'n weddill ar eich treth cerbyd. Mae'r ad-daliad yn cael ei gyfrifo o'r dyddiad y mae DVLA yn cael eich gwybodaeth. Anfonir y siec at yr enw a'r cyfeiriad ar lyfr log y cerbyd. Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi cael eich siec ad-daliad ar ôl 8 wythnos.

Cardiau talu

Mae cardiau debyd a chredyd yn cael eu derbyn i'w talu ar y wefan hon. Mae gwybodaeth cardiau yn cael ei throsglwyddo yn unol â'n datganiad diogelwch.

Parhad y gwasanaeth

Lle bo'n bosibl, bydd DVLA yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau nad oes toriad yn barhad y gwasanaeth a dim ond pan fo angen y bydd yn gwneud newidiadau. Efallai y bydd angen diffodd y gwasanaeth ar adegau pan fydd angen gweithredu uwchraddiadau hanfodol iddo.

Ymwadiad

Nid yw DVLA yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod a achosir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth hwn, boed hynny'n uniongyrchol, yn anuniongyrchol neu'n ganlyniadol, p'un a achoswyd gan gamwedd, torri contract neu fel arall, mewn cysylltiad â'n gwasanaeth, ei ddefnydd, yr anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwasanaeth, unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau sy'n cael eu postio arno.

Mae hyn yn cynnwys colli:

  • incwm neu refeniw
  • busnes
  • contractau neu elw
  • arbedion a ragwelir
  • data
  • ewyllys da
  • eiddo diriaethol
  • amser swyddfa neu reoli a wastraffwyd

Cwcis a phreifatrwydd

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'n polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis. Darllenwch y polisïau hyn am ragor o wybodaeth.

Diogelu rhag firysau

Bydd DVLA yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o'r cynhyrchiad. Mae hi bob amser yn ddoeth i ddefnyddwyr redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lawrlwythir o'r we.

Nid yw DVLA yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, aflonyddwch neu ddifrod i'ch data na'ch dyfais a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.

Hawlfraint ac atgynhyrchu

Mae'r deunydd a welir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y goron am ragor o wybodaeth.

Ni chaniateir ichi, y cwsmer, addasu nac newid y wybodaeth. Bydd unrhyw ymgais i wneud hynny yn gyfystyr â thorri'r telerau ac amodau hyn.

Mae enwau, delweddau a logos DVLA yn eiddo DVLA. Ni chaniateir copïo logos DVLA a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill a gyrchir trwy'r wefan hon heb gymeradwyaeth gan berchennog yr hawlfraint berthnasol o flaen llaw.

Diwygiadau i delerau ac amodau

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn diweddaru'r telerau ac amodau hyn. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r wefan hon ar ôl y dyddiad y daw unrhyw newidiadau i rym, mae eich defnydd o'r wefan yn dangos bod eich cytundeb yn rhwymedig i'r telerau ac amodau newydd.

Cyfraith berthnasol

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a'i llysoedd fydd yn penderfynu ar unrhyw anghydfodau.